Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Siambr Hywel - Tŷ Hywel

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 8 Hydref 2025

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
15396


303

------

<AI1>

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Dechreuodd yr eitem am 13.30 

Gofynnwyd cwestiynau 2 i 9. Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 3. 

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Dechreuodd yr eitem am 14.16 

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2. 

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau Amserol

Dechreuodd yr eitem am 15.08 

Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio 
Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru):
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch effaith tariffau cynyddol yr Undeb Ewropeaidd ar ddiwydiant dur Cymru?   

 

Ni chafodd y Cwestiwn Amserol gan Sian Gwenllian i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ei ofyn. 

</AI4>

<AI5>

4       Datganiadau 90 eiliad

Ni chyflwynwyd unrhyw Ddatganiadau 90 eiliad.

</AI5>

<AI6>

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

Dechreuodd yr eitem am 15.19 

NNDM9007 Elin Jones (Ceredigion) 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Russell George (Annibynnol) yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Joel James (Ceidwadwyr Cymreig). 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI6>

<AI7>

5       Cynnig i ddiddymu Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru

Dechreuodd yr eitem am 15.19 

NDM8997 Elin Jones (Ceredigion)   

Cynnig bod y Senedd:   

1. Yn nodi y cafodd y Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru ei sefydlu ar 16 Mai 2023.   

2. Yn nodi y gosodwyd adroddiad y Pwyllgor, ‘Adroddiad ar y bylchau a nodwyd ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill Cymru yn ystod pandemig covid-19 y dylid eu harchwilio ymhellach: Modiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU’, ar 25 Mawrth 2025.    

3. Yn nodi y trafodwyd adroddiad y Pwyllgor, ‘Adroddiad ar y bylchau a nodwyd ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill Cymru yn ystod pandemig covid-19 y dylid eu harchwilio ymhellach: Modiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU’, ar 16 Gorffennaf 2025.   

4. Yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, y dylai'r Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru ddod i ben.   

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

</AI7>

<AI8>

6       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Cyfoeth Naturiol Cymru: Gwaith craffu blynyddol 2024-25

Dechreuodd yr eitem am 15.27 

NDM8996 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)   

Cynnig bod y Senedd:   

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Cyfoeth Naturiol Cymru: Gwaith craffu blynyddol 2024-25 a osodwyd ar 21 Mai 2025.   

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Hydref 2025. Ymatebodd Cyfoeth Naturiol Cymru ar 3 Gorffennaf 2025.   

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

</AI8>

<AI9>

7       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Cymorth tai i bobl sy’n agored i niwed

Dechreuodd yr eitem am 16.11

NDM8995 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)  

Cynnig bod Senedd Cymru: 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Cymorth tai i bobl sy’n agored i niwed', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2025.  

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Hydref 2025.  

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI9>

<AI10>

8       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Dechreuodd yr eitem am 16.48

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8999 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn gresynu y bydd asesiad Llywodraeth Cymru o effaith economaidd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a gyhoeddwyd ar 30 Medi 2025 yn arwain, yn ôl amcangyfrifon, at: 

a) 56,000 o dda byw Cymreig yn cael eu colli; 

b) 1,163 o swyddi ar ffermydd Cymru yn cael eu colli; a 

c)£76.3 miliwn o incwm busnes ffermydd yn cael ei golli. 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy presennol a chyflwyno cynllun yn ei le sy'n gweithio i ffermwyr, gan roi diogeledd bwyd a chynhyrchiant yn ganolog iddo. 

Asesiad effaith economaidd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

31

42

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)  

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le: 

Cynnig bod y Senedd: 

1.  Yn cydnabod y cydweithio a ddigwyddodd wrth ddatblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a chyfraniad sylweddol rhanddeiliaid. 

2.  Yn nodi cyhoeddi’r Cynllun ar 15 Gorffennaf 2025 a’r gwaith parhaus gyda rhanddeiliaid ar yr haenau Dewisol a Chydweithredol. 

3.  Yn croesawu cyhoeddi Achos Busnes llawn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy er mwyn bod yn agored a thryloyw. 

4.  Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi dros £340 miliwn yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn 2026.   

5.  Yn annog ffermwyr i ystyried manylion y cynllun ei hun a defnyddio’r canllaw cyflym sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

0

20

42

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol De Cymru)   

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: 

Yn galw ar Lywodraethau Cymru a'r DU i weithio gyda'i gilydd i ddarparu setliad ariannol aml-flwyddyn i'r sector amaethyddol, ac i symud i ffwrdd o Farneteiddio'r gyllideb ffermio er mwyn darparu sefydlogrwydd economaidd i'r sector. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

33

42

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd: 

1.  Yn cydnabod y cydweithio a ddigwyddodd wrth ddatblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a chyfraniad sylweddol rhanddeiliaid. 

2.  Yn nodi cyhoeddi’r Cynllun ar 15 Gorffennaf 2025 a’r gwaith parhaus gyda rhanddeiliaid ar yr haenau Dewisol a Chydweithredol. 

3.  Yn croesawu cyhoeddi Achos Busnes llawn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy er mwyn bod yn agored a thryloyw. 

4.  Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi dros £340 miliwn yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn 2026.   

5.  Yn annog ffermwyr i ystyried manylion y cynllun ei hun a defnyddio’r canllaw cyflym sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

0

20

42

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Am 17.35, gofynnodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig am eglurhad ynghylch sylwadau a wnaed gan  Sam Kurtz AS yn ystod y ddadl. Ymatebodd Sam Kurtz AS i’r Dirprwy Brif Weinidog.

</AI10>

<AI11>

9       Cyfnod pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 17.36

</AI11>

<AI12>

Crynodeb o Bleidleisiau

</AI12>

<AI13>

10    Dadl Fer

Dechreuodd yr eitem am 17.39

NDM8992 Heledd Fychan (Canol De Cymru)   

Rhwystro mynediad at addysg: y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) a pham bod rhaid ei ddiwygio. 

</AI13>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 17.58

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 14 Hydref 2025

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>